29.8.04

Englyn y Sul - 29.08.2004

Mae Englyn y Sul yr wythnos hon yn dod o Gyfansoddiadau Eisteddfod Dyffryn Conwy 1989. Yr englyn hwn oedd y buddugol yng nghystadleuaeth yr Englyn. Awdur yr englyn ydy'r bardd T. Arfon Williams a oedd yn enwog am lunio englynion ar ffurf un brawddeg yn llifo trwy'r llinellau. Mae'r englyn arbennig hwn yn enghraifft o'r dechneg 'Arfonaidd' yma o gyfansoddi, ac yn englyn dwi'n hoff iawn ohonno.

Cwlwm

Rhywun i wneud fy nghareia' a geisiaf

ac, oes, mae'n y Cartra'

hwn ddyn sy'n eu clymu'n dda,

ond pam nad yw Mam yma?


26.8.04

Englyn Canol yr Wythnos - 26.08.2004

Mae'r englyn hwn (sy'n parhau â'r thema o hen englynion comedi) wedi'i godi o'r Barddas diweddaraf, sef rhifyn Eisteddfod Casnewydd. Mae colofn Twm Morys yn sôn am fedd-dod mewn barddoniaeth, ac mae'n dyfynnu'r englyn hwn o waith R.W. Phillips.

Y Meddwyn

Ow! 'r ffôl, anfuddiol Feddwyn - wrthyd Iôr,

I warth du y disgyn:

Annedwydd, druan adyn,

Yfed gwae - dyna'i fyd gwyn.


22.8.04

Englyn y Sul - 22.08.2004

Dwi wedi methu penderfynu pa englyn o'r gadwyn yma i'w roi fel yr Englyn y Sul swyddogol, felly rhowch sylw i wneud y penderfyniad drostai. Mae'r gadwyn hon yn dod o awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Sir Fôn 1957. Teitl yr awdl ydy Cwm Carnedd, a'r awdur ydy Gwilym Tilsley.

Yr eglwys heb beriglor - yno'n awr,
Na neb yn ei hagor;
Mae llwch mall ar ei hallor,
A gwair a dyf ger ei dôr.

Ysgol yn wag o'i desgiau, - heb na mab
Na merch rhwng ei muriau,
Na disgybl wrth ei dasgau,
Na Huw'r Sgŵl ger ei drws cau.

Y capel mawr a weli, - ar y Sul
Tyrrai'r saint i'w lenwi;
Heddiw nid oes i'w noddi
Yn ei dranc ond dau neu dri.

Fe beidiodd twrf y Bedol, - a miri
Ei chwsmeriaid nosol;
Och! o dristwch dirwestol
Ei bar hesb, heb neb ar ôl.

Siop y Mownt, gwag ei chownter, - didrimins,
Didramwy, digwsmer;
Ni waeth i Siams un amser
Roi'i fleinds ar ei ffenestr flêr.

Adfail yw gefail y go'; - aeth ei thân
A'i hengan yn ango';
Adar gwaun a drig yno -
Y brain lle bu Senedd bro.

Sbwriel o chwarel wedi'i chau, - a niwl
Y nos ar y crawiau;
A gwaith dyn, fel brethyn brau
Yn braenu rhwng y bryniau.

20.8.04

Wrth Eglwys Pilleth (Bryn-Glas, Maesyfed)

Dyma'r gerdd gyntaf a ddaeth i'r meddwl ar ôl gwylio'r rhaglen 'Battlefield Britain' am ymgyrch Owain Glyn-dŵr. Mae'r gerdd o'r gyfrol 'Y Llafn Golau', a'r awdur yw Vernon Jones.

Wrth Eglwys Pilleth
(Bryn-Glas Maesyfed)


Ym mlaenau gwlad Maelienydd
Mae hen ffald i glymu'n Ffydd,
Eglwys i Fair rhwng gweiriau
Anghysbell gangell heb gau.
Diwair dyst y mynd a'r dod
Ym merw'r ffin, mawr ei phennod.

Yn ei hunfan mae'r henfan
A'i chred maith a'i chariad mam,
Yn drist ei hynafol drem
Ar wâl fel hanner helem.
Deil i hidlo o'i hydlan
Hen rawn yr hil ar ein rhan.

Gwelwn dyst i fflam Glyn-dŵr
Cyn y cweir i'r concwerwr:
"Glain y Glyn" a'i gelanedd
Ym Mryn Glas a'r mirain gledd,
Lle bu cigfrain ar leiniau
Ger y waun yn rhwygo'r iau.

Ôl cledd ni welir heddiw -
Y mae'r fro yn falm ar friw;
Daear hau ein brwydyr yw
I adfer hyder ydyw.
Er ei ffawd hi ddyry ffydd
Mileniwm ym Maelienydd.

17.8.04

Englyn Canol yr Wythnos - 17.08.2004

Dyma'r englyn canol wythnos cyntaf. Hwn oedd yr englyn buddugol yn Eisteddfod Bro Dwyfor 1975, pan enillwyd y Gadair gan Gerallt Lloyd Owen am y tro cyntaf. Ef enillodd yr englyn hefyd gyda'r englyn hwn. Dewisais hwn am ei glyfrwch yn fwy na dim, ac am drosiad effeithiol ac anarferol.

Gwenynen

Er holl ferw'r llafurwaith - a'i rwndi,

Er yr undeb perffaith,

Er cynnull heb streic unwaith,

Yn niwedd haf mae'n ddi-waith.

Cilmeri: Abertawe 1982. Gerallt Lloyd Owen (vi)

Y rhewynt yn gareiau ar y bont,
A'r byd i'w hwynebau;
Maen y cof yn miniocáu,
Fel yr oerfel, eu harfau.

Fel un 'roedd deunaw o flaen y cannoedd,
Y cannoedd diadwaen;
'Roedd un mur yn ddeunaw maen,
Un noethfur o wenithfaen.

Yn adwy'r bont, dôr eu byd, yn rhyfyg
Canrifoedd yr ennyd
 deunaw gŵr, dyna i gyd,
Safodd yr oesau hefyd.

Yr iâ ar Bont Orewyn a redodd
Yn ffrydiau eiriaswyn;
Aeth deunaw yn naw, yn un;
Môr o waed oedd mur wedyn.

A'r angau ar ei eingion yn ieuo'u
Haearn yn freuddwydion;
Deunaw marwolaeth dynion,
Deunaw greddf yn gadwyn gron.

Nid oedd ond enaid iddynt, y deunaw
Na roed wyneb arnynt;
Deunaw gŵr dienw gynt
Ym mreuddwyd Cymru oeddynt.

Cilmeri: Abertawe 1982. Gerallt Lloyd Owen (ii)

 chof sy'n hwy na chofio fe welaf
Eilwaith ddydd ei lorio,
Ac ail-fyw ei glywfau o
 galar hŷn nag wylo.

Hwn yw'r cof am wylofain awyr wag
A'r tir oll yn gelain,
Rhagfyr drwy'r goedwig frigfain
A'i drwst megis ffaglau drain.

Wybren y bore'n aberoedd o waed
Yn hollt y mynyddoedd;
Gwridog fel dagr ydoedd
Y wawr, a gwawr euog oedd.

Yntau yn llaes ei fantell, ŵr unig
Ar riniog ei babell,
A roddodd goel ar ddydd gwell,
A hen gam yn ei gymell.

Hon oedd gwawr fawr ei fwriad a hawliai
Orwelion ei dreftad;
I'w golau hi deffrôi gwlad,
Hi oedd diwedd dyhead.

15.8.04

Englyn y Sul - 15.08.2004

Dwi wedi penderfynu dilyn ôl traed Nic gydag Englyn y Dydd morfablog gan bostio dau englyn yr wythnos. Byddaf yn postio un ar y Sul ac yna un arall yng nghanol yr wythnos (tan y byddai'n rhedeg allan ohonyn nhw). Mae'r llinell olaf yna'n hollol wych. Ro'n i'n pendroni os y dylwn roi un ysgafnach i ddechrau, ond wrth ddarllen y llinell olaf poenus o bersonol ac athrylithgar doedd na ddim amheuaeth mai hwn fyddai'n englyn cyntaf i.

Mae'r cyntaf yn englyn gan Alan Llwyd.

Methu Anghofio Roy

Rwy'n einioes er anhunedd; - rwy'n euog

Saernïo cynghanedd

Rwy'n anadl er distadledd:

Yr wy'n fyw a Roy'n ei fedd.


Cilmeri: Abertawe 1982. Gerallt Lloyd Owen (i)

Yn fraw agos ar frigyn
Gwelaf leuad llygadwyn
Mor oer â'r marw ei hun

A diddiffoddodd ddioddef
Y byw yn ei wyneb ef
Yn felynllwyd fel hunllef.

Wyneb y diwedd unig,
Druan rhwth, uwch dyrnau'r wig
Yn geudod dirmygedig.

Hyd eithaf y ffurfafen
Y teimlaf ei anaf hen
A'i wae ym mhob gwythïen.

Er bod bysedd y beddau
Yn deilwriaid doluriau,
Cnawd yn y co' nid yw'n cau.