15.8.04

Cilmeri: Abertawe 1982. Gerallt Lloyd Owen (i)

Yn fraw agos ar frigyn
Gwelaf leuad llygadwyn
Mor oer â'r marw ei hun

A diddiffoddodd ddioddef
Y byw yn ei wyneb ef
Yn felynllwyd fel hunllef.

Wyneb y diwedd unig,
Druan rhwth, uwch dyrnau'r wig
Yn geudod dirmygedig.

Hyd eithaf y ffurfafen
Y teimlaf ei anaf hen
A'i wae ym mhob gwythïen.

Er bod bysedd y beddau
Yn deilwriaid doluriau,
Cnawd yn y co' nid yw'n cau.

2 Sylw:

Blogger Rhodri

Diolch Crystyn.

August 16, 2004 at 12:21 AM  
Blogger Szczeb

Un o gerddi orau'r ganrif neu ddwy (neu dair) diwethaf. A dyma'r unig ddyfyniad y des i ar ei draws wrth chwilio.

Gyda llaw - "diddifodd", yn hytrach na "diddiffoddodd" ddylai fod yn yr ail englyn.

March 20, 2008 at 3:46 PM  

Rhoi sylw

<< Hafan