17.8.04

Cilmeri: Abertawe 1982. Gerallt Lloyd Owen (ii)

 chof sy'n hwy na chofio fe welaf
Eilwaith ddydd ei lorio,
Ac ail-fyw ei glywfau o
 galar hŷn nag wylo.

Hwn yw'r cof am wylofain awyr wag
A'r tir oll yn gelain,
Rhagfyr drwy'r goedwig frigfain
A'i drwst megis ffaglau drain.

Wybren y bore'n aberoedd o waed
Yn hollt y mynyddoedd;
Gwridog fel dagr ydoedd
Y wawr, a gwawr euog oedd.

Yntau yn llaes ei fantell, ŵr unig
Ar riniog ei babell,
A roddodd goel ar ddydd gwell,
A hen gam yn ei gymell.

Hon oedd gwawr fawr ei fwriad a hawliai
Orwelion ei dreftad;
I'w golau hi deffrôi gwlad,
Hi oedd diwedd dyhead.