12.9.04

Englyn y Sul - 12.09.2004

Englyn affwysol o wael (a dienw) sydd gen i'r wythnos hon. Er mor wael yw'r englyn yma, dwi'n meddwl y byddai'n anodd iawn ei wella - beth arall y medrwch chi ddweud am gath?!

Cath

Un ffel iawn sy'n hoff o lâth - neu bysgod,

Mewn basged mae'n dwmpath.

Un ddel na nofia ddwylath,

Un sy'n ofni ci yw Cath.