26.9.04

Englyn y Sul - 26.09.2004

Englyn wedi'i fenthyg o furiau'r Annedd. Mei Mac sydd bia'r englyn. Fy rheswm am ddewis yr englyn hwn ydy'r sicrwydd yn y llinell olaf - mor syml, ond eto'n arbennig o effeithiol.

Yfory

Hwyrach y daw â gwrachod, - neu'n hwyrach

Daw â chariad hynod,

hwyrach y daw â Herod,

ond myn Duw y mae o'n dod.