3.10.04

Englyn y Sul - 03.10.2004

Englyn gan Elfed sydd gen i'r wythnos hon - englyn sy'n cael ei ddyfynnu gan Alan Llwyd yn y rhifyn diweddaraf o Barddas. Dwi'n hoff iawn o'r llinell olaf a sut mae'r englyn yn troi'n araf tuag at y diwedd.

Bore oes - O! mor brysur - y gwibia

Gobaith ar ei antur:

Canai lai pe gwelai gur

Y blodau dan y bladur.