10.10.04

Englyn y Sul - 10.10.2004

T Llew Jones ydi awdur Englyn y Sul yr wythnos hon, englyn sy'n dod o'r gyfrol 'Canu'n Iach'. Dwi'n hoff o'r sylw cynnil a phoenus o gywir sydd gan y bardd, gyda'r dweud yn hollol naturiol a'r gynghanedd yn llifo.

Dagrau

Ein tristau wna dagrau dyn - o wylio'n

Ei alar; ond wedyn

Y dwysaf anffodusyn

Yw'r hwn na all dywallt un.